Yn Creu Cymunedau Cynaliadwy


Yr Amgylchedd

Polisi Amgylcheddol
Mae Menter Cwm Gwendraeth yn gweithredu polisi amgylcheddol wrth ei gwaith o ddydd i ddydd. Mae cynlluniau cychwynnol mewn lle l leihau gwastraff a gor-ddefnyddio adnoddau. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â mudiadau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, er mwyn rhannu gwybodaeth ac arfer da. Mae materion amgylcheddol ar frig agenda'r Cynulliad Cenedlaethol, ac mae Menter Cwm Gwendraeth yn awyddus i ddatblygu arbenigedd yn maes datblygiad cynaliadwyedd er mwyn gallu cynnig cyngor a chefnogaeth i grwpiau ar draws y Cwm.

Rydym yn edrych ymlaen at ddyfodol newydd, yn barod i gofleidio pob her a sialens sydd yn dod dros y gorwel. Ond, y mae her enfawr yn wynebu pob un ohonom - Mae ein hinsawdd yn newid ar gyflymdra syfrdanol ac mae angen i ni wneud newidiadau enfawr yn y ffordd yr ydym yn byw ein bywydau. Rydym ni yn defnyddio adnoddau’r byd a chreu gwastraff ar gyflymdra fel na all ein byd ymdopi. Mae pob un ohonom yn gorfod wynebu bod y newidiadau yn ecosystem y ddaear hon yn mynd i ychwanegu at broblemau presennol fel tlodi, newyn a rhyfel ac yn mynd i effeithio ar gyflwr economeg, diwylliannol a chymdeithasol y wlad.

Mae dyfodol pob un ohonom, ein plant a phlant ein plant, yn dibynnu ar y penderfyniadau yr ydym yn gwneud nawr, ac ar y ffordd yr ydym yn ymrwymo a gweithredu ar y penderfyniadau yma. Os fyddwn yn gweithredu nawr, nid yn unig gallwn osgoi trychineb enfawr ond gallwn weithio tuag at fyd heddychlon, cynaliadwy sy’n cynnig cyfoeth a chyfleoedd i’r genhedlaeth nesa fedru manteisio ar yr un cyfleoedd y cawsom ni. Mae gennym bopeth sydd eisiau arnom i ddatrys y broblem, popeth ond yr awydd i newid.

Aled Owen

 


Safeguarding the environment and ensuring sustainability is everyone's responsibility. 

Mae diogelu'r amgylchedd a sicrhau  cynaliadwyedd yn gyfrifoldeb i bawb
yn ddi-wahan.