Menter Cwm Gwendraeth yn dathlu 18 Mlynedd!Sefydlwyd Menter Cwm Gwendraeth yn 1991 fel cynllun peilot yma yng Nghwm Gwendraeth. O'r cychwyn cyntaf rhoddwyd pwyslais mawr ar y gymuned gan gynnwys trigolion lleol yn holl trefniant gweithgarwch y Fenter. Ers 1998 mae Menter Cwm Gwendraeth wedi bod yn gweithio'n strategol ar sail Fframwaith Cynllunio Cymunedol y Cynulliad a Chyngor Sir Gaerfyrddin gan ddatblygu prosiectau ym maes Iechyd a Lles, Adfywio Cymunedol, yr Amgylchedd, Addysg Gydol Oes, Diogelwch Cymunedol a Phlant a Phobl Ifanc gan sicrhau bod y Gymraeg yn llorweddol yn natblygiad pob prosiect. Rwyf wedi gweithio i Menter Cwm Gwendraeth ers ei sefydlu yn 1991 ond wedi fy mhenodi fel Rheolwr Gyfarwyddwr ym mis Ebrill 1998.Mae unrhyw asiantaeth gymunedol yn wynebu heriau'n rheolaidd a'r her fwyaf sydd yn wynebu Menter Cwm Gwendraeth yw'r effaith economaidd sydd yn creithio ein cymunedau ac yn eithrio pobl yn gymdeithasol.Ar hyn o bryd mae Menter Cwm Gwendraeth yn datblygu ei rôl Menter Cymdeithasol ac yn mynd ati i ddenu cytundebau lefel gwasanaeth ar draws Sir Gar. Yn naturiol mae hyn yn golygu gweithio gyda phartneriaid allweddol gan gynnwys y Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Cyngor Sir, Ymddiriedolaeth Iechyd, Prifysgolion,Sector 0Breifat a Gwirfoddol.Mae Menter Cwm Gwendraeth dros y blynyddoedd wedi datblygu isgwmnïau gweithredol gan gynnwys Caffi Cynnes caffi cymunedol sy'n cynnig gwasanaeth pump diwrnod yr wythnos, Cwtsh Glöyn siop lyfrau ac adnoddau Cymraeg, Cwmni Gwasanaethau sy'n cynnig cyfieithu ar y pryd ac ysgrifenedig ac hyfforddiant.Mae Menter Min Nos yn cynnig gwasanaeth gofal i henoed mewn partneriaeth a'r Ymddiriedolaeth Iechyd a Menter Plant y Cwm yn cynnig gwasanaethau clybiau gofal cofrestredig ar ôl ysgol ac adeg gwyliau. Am fanylion pellach cysyllter a Menter Cwm Gwendraeth ar 01269 871600 deris@mentercwmgwendraeth.org.uk
|
Menter Cwm Gwendraeth celebrating 18 years!Menter Cwm Gwendraeth was established in 1991 as a pilot scheme here in the GwendraethValley. From the very beginning a big emphasis has been placed on the community with local residents included in the organisational activity of the initiative. Since 1998 Menter Cwm Gwendraeth has been working strategically on the basis of the Welsh Assembly’s and Carmarthenshire County Council’s Community Planning Framework by developing projects in the Health and Wellbeing sector, Community Regeneration, The Environment, Lifelong Learning, Community Safety and Children and Young People by ensuring that the Welsh language is horizontal in the development of every project. I have worked for Menter Cwm Gwendraeth since its establishment in 1991 but was appointed as the Managing Director in April 1998.Any community initiative faces regular challenges and the biggest challenge facing Menter Cwm Gwendraeth is the economic effect that scars our communities and excludes people socially. At present, Menter Cwm Gwendraeth is developing its role as a community initiative and is going at it to attract service level agreements across Carmarthenshire. Naturally this entails working with key partners including the Welsh National Assembly, County Council, Health Trust, Universities, Private and Voluntary Sectors. Menter Cwm Gwendraeth over the years has developed executive sub-companies including Caffi Cynnes a community café that offers a service five days a week, Cwtsh Gloyn book shop and Welsh resources, a Service Company that offers simultaneous translation, writing and training. The ‘Twilight Service’ offers a care service to the elderly in partnership with the Health Trust and the ‘Plant y Cwm’ initiative offers the service of registered care clubs after school and also during the holiday period. For more information contact Menter Cwm Gwendraeth on 01269 871600 deris@mentercwmgwendraeth.org.uk
|