Yn Creu Cymunedau Cynaliadwy

Clwb Cinio

Mae clwb cinio canolddydd newydd ar y fwydlen ym Mhonthenri. Mae'r clwb, yn cwrdd pob dydd Llun a dydd Gwener rhwng 11.30yb a 2yp a rhoddir y cyfle i bobl dderbyn pryd sylweddol ac i gymdeithasu gyda chymdogion a ffrindiau yn ystod yr amser.

Cydiodd Menter Cwm Gwendraeth yn awenau'r clwb cinio yma ym mis Mehefin ar ôl ymchwil gan Gyngor Sir Gaerfyrddin i ddarparwyr annibynnol. Dywedodd David Saywell, Cydlynydd Dolen Iechyd,

 " Roeddwn yn awyddus i redeg y clwb cinio canol-ddydd gan fy mod yn ymwybodol o'i bwysigrwydd i'r gymuned hŷn". " Nyd yn unig manteisio ar bryd o fwyd iachus am gost isel y gall yr aelodau fwynhau ond gallant hefyd gwrdd a sgwrsio gyda ffrindiau a phrofi bywyd cymdeithasol llawn".  " mae clwb o'r fath yn eu helpu i gadw eu hunaniaeth, ac yn rhoi rheswm iddynt fynd allan o'r tŷ a mwynhau cwmni ei gilydd".

"Calonogol yw'r ymateb hyd yn hyn, ond hoffwn estyn croeso cynnes i unrhyw aelodau newydd".

  

Mae cinio at cost isel yn cael ei ddilyn gan fingo.

Os hoffech ymuno a'r clwb, cysylltwch â Julie Nicholas yn swyddfa
Menter Cwm Gwendraeth ar 01269 871600.