|
GŴYL CERDD DANT CWM GWENDRAETH 2011 Fel y gallwch ddychmygu, gyda Gŵyl Cerdd Dant Cymru yn dod i’r Cwm ym mis Tachwedd 2011, bydd llawer o ddigwyddiadau yn cael eu trefnu ym mhentrefi’r ardal yn ytsod y misoedd nesaf er mwyn cyrraedd y nôd o £50,000 sydd ei angen i’w llwyfannu. Mae’r swm hwn yn un sylweddol, wrth gwrs, yn enwedig o ystyried taw blwyddyn yn unig sydd gyda ni i’w gyrraedd. Gan fod hwn yn ddigwyddiad mor bwysig, ‘rydym yn siwr y byddai llawer o blant y Cwm sydd erbyn hyn yn byw mewn rhannau eraill o Gymru, ddim ond yn rhy barod i achub ar y cyfle i ddweud ‘Diolch ‘ am fod Cwm Gwendraeth yn ymdrechu i gadw ei Gymreictod. Gofynnwn yn daer i chi, felly, ystyried wneud cyfraniad tuag at yr Ŵyl drwy anfon siec yn daladwy i ‘ Gŵyl Cerdd Dant Cwm Gwendraeth 2011’ ynghŷd â’r atodiad isod yn yr amlen amgaeëdig. Diolch o galon am eich sylw caredig. Ar ran y Pwyllgor Gwaith Deris Williams (Ysgrifennyddes) …………………………………………………………………………………………………………………………………………. Enw : Amgaeaf gyfraniad o £_____ tuag at Gŵyl Cerdd Dant Cwm Gwendraeth 2011 |
Gallwch lawrlwytho'r llythyr uchod wrth glicio ar yr atodiad PDF hwn -
You can download this letter by clicking on this PDF attachment -
