Yn Creu Cymunedau Cynaliadwy

 Menter Min Nos

Cafodd Menter Cwm Gwendraeth ei chanmol am ei Gwasanaeth Min Nos sy’n helpu cleifion i adael yr ysbyty a dychwelyd i’r gymuned. Mae tîm o ymchwilwyr o Brifysgol Bangor wedi rhoi clod i’r gwasanaeth cludiant ysbyty fel esiampl o arfer da. Gweithredwyd y gwasanaeth o 2pm i 10pm o Ddydd Iau i Ddydd Llun, yn cynnig cludiant car am ddim o adrannau damwain ac argyfwng yn ysbytai’r Tywysog Phillip a Glangwili ar gyfer cleifion sy’n agored i niwed. Amcangyfrifwyd gan ymchwilwyr fod y gwasanaeth yn arbed o leiaf 20 dydd gwely y mis gydag arbedion o £363 y dydd. Mae’r gwasanaeth yn helpu i osgoi derbyniadau diangen i’r ysbyty trwy ddarparu cymorth gofal cymdeithasol i helpu pobl i setlo nôl gartref – byddai cleifion fel arall yn cael eu rhoi mewn ward heb unrhyw angen meddygol.

Yn ogystal a gweld pobl yn ddiogel gartref o’r ysbyty, mae gwirfoddolwyr Menter Min Nos hefyd yn helpu pobl trwy droi goleuadau a gwres ymlaen, paratoi lluniaeth ar eu cyfer, dod i mewn â  cyflenwadau o fwyd a gwneud gwiriadau sylfaenol diogelwch yn y cartref. Maent hefyd yn cyfeirio at wasanaethau gofal cymdeithasol arall ac yn cynnig cwmni o fewn i’r ysbyty. Er bod y cynllun yn cael ei redeg gan Menter Cwm Gwendraeth, o’r dechrau mae e wedi bod yn bartneriaeth, gyda’r syniad o’r cynllun yn dod o’r Bartneriaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Sir Gaerfyrddin sydd yn dod â mudiadau’r trydydd sector, iechyd a gofal cymdeithasol at eu gilydd.

Dywedodd David Saywell, Cydlynydd Dolen Iechyd Menter Cwm Gwendraeth “Mae Menter Min Nos wedi mynd o nerth i nerth. “Mae yna amrywiaeth o dystiolaeth i awgrymu y byddai nifer o ddefnyddwyr y gwasanaeth yn aros yn yr ysbyty am fwy nag un nos os byddent yn cael eu derbyn fel claf preswyl. Yn ogystal â hyn, y sylwadau cadarnhaol rydym yn cael o ddefnyddwyr y gwasanaeth sydd yn wir  y gwneud y gwahaniaeth i ni. Dywedodd Deris Williams, cyfarwyddwr Menter Cwm Gwendraeth “Rydw i wrth fy modd ein bod gallu gweithio mewn partneriaeth i ddarparu’r gwasanaeth mawr ei angen yma.” Ychwanegodd Peter Llewellyn, Pennaeth Partneriaethau Strategol ym Mwrdd iechyd Hywel Dda: “Mae’r gwasanaeth yn nodweddiadol o’r daioni mae cydweithio yn rhoi i’r gymuned ac mae’r gwerthusiad hyn yn amlinellu yn glir ei effeithiolrwydd yn cefnogi darpariaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn Sir Gaerfyrddin.”

Comisiynwyd yr adroddiad gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ac ariannwyd gan Llywodraeth Cynulliad Cymru.

MENTER Cwm Gwendraeth has been praised for its Twilight Service to help patients leave hospital and return to the community. A team of Bangor University researchers has hailed the hospital transport service as a beacon of good practice. The service operates from 2pm-10pm Thursday to Monday, offering free car transport home from accident and emergency departments at Prince Philip and Glangwili hospitals to vulnerable patients. Researchers have estimated that the service saves a minimum of 20 bed days per month at a saving of £363 per day. The service helps to avoid unnecessary hospital admissions by providing social care support to help people settle back at home – patients that would otherwise be admitted on to a ward without any real medical need.

As well as seeing people safely home from hospital, Twilight Service volunteers also help people settle by turning on lights and heating, making them refreshments, getting in food supplies and carrying out basic home safety checks. They also refer and signpost to other social care services, and offer a befriending role within the hospital setting. Although led by Menter Cwm Gwendraeth, the scheme has always been a partnership arrangement, the idea for the scheme being born in the Carmarthenshire Health, Social Care and Wellbeing Partnership, which brings together health and social care and third sector organisations.

David Saywell, Menter Cwm Gwendraeth Health Link Coordinator, said: “The Twilight Service has gone from strength to strength. “There is a variety of evidence to suggest that many of the service users would stay in hospital for longer than one night if they had been admitted as an inpatient. As well asthis it is the positive comments from service users that really make the difference for us.” Menter Cwm Gwendraeth director Deris Williams said: “I am delighted that we have been able to work in partnership to provide this much-needed and appreciated service.” Peter Llewellyn, Head of Strategic Partnerships at Hywel Dda Health Board, added: “This service is typical of the benefits that joint working brings to the community and this evaluation clearly outlines it’s effectiveness in supporting health and social care provision in Carmarthenshire.”

The report was commissioned by the Welsh Council for Voluntary Action and funded by the Welsh Assembly Government.

 


       
              

           

                                Cymraeg/Welsh                                                 Saesneg/English

I weld fersiwn mawr or pamfledi clicwch ar eich dewis Cymraeg neu Saesneg
                To see a larger version of the pamphlets please select Welsh or English                  

                              

 

 

 

Gwobrau'r Gymraeg mewn Gofal Iechyd 2008
The Welsh Language in Healthcare Awards 2008

Gwaith a Grwpiau sy'n Flaenoriaeth
Canolbarth a Gorllewin Cymru

Work done with Priority Groups
Mid and
West Wales

Deris Williams, Rheolwr Gyfarwyddwr
 Menter Cwm Gwendraeth a
Janet Hague, Rheolwr Prosiect Menter Min Nos